Traditional (Welsh) - Ar Hyd y Nos lyrics

Published

0 89 0

Traditional (Welsh) - Ar Hyd y Nos lyrics

Holl amrantau'r sêr ddywedant Ar hyd y nos "Dyma'r ffordd i fro gogoniant," Ar hyd y nos. Golau arall yw tywyllwch I arddangos gwir brydferthwch Teulu'r nefoedd mewn tawelwch Ar hyd y nos. O mor siriol, gwena seren Ar hyd y nos I oleuo'i chwaer ddaearen Ar hyd y nos. Nos yw henaint pan ddaw cystudd Ond i harddu dyn a'i hwyrddydd Rhown ein golau gwan i'n gilydd Ar hyd y nos.