Shaun Davey - Ymadawiad Arthur lyrics

Published

0 257 0

Shaun Davey - Ymadawiad Arthur lyrics

Troes gemliw wawl tors Gamlan, Eurai fo drueni `r fan Onid teg, yr ennyd hon, Drem oer y cedwyr meriwon; Drwy y gwaed, dros dyrrau gwyr Heb adwy, y dug Bedwyr , O`I nerth, y Brenin Arthur, O lescai o loes y cur. Cerddod Bedwyr heb orffwys a `r pwysau Yn tanio `I wyneb tynhau `I ewynnua Fel drych o risial glan odditano, Y gwelai long ar y gloyw li yngo. Bydd ddewr a glan Baidd ddioddef ddiddan Mi weithion I hinon Afallon af Draw dros y don mae bro dirion nad ery Cwy Ynys Afallon pob calon ya hon yn heiny a llon Ni ddaw fyth I ddeifio hon golli ffydd, Na thro cywilydd, na thorri callon. Bydd ddewr a glan Baidd ddioddef ddiddan Mi weithion I hinon Afallon af O drofau`r Ilyn Anial, Iledodd niwl Ilwydwyn; Yn araf cyniweiriodd, Ac yno`r Ilong dano a dodd, A`I Chelu; fel drychiolaeth, Yn y niwl diflannu a wnaeth.