[Verse 1:] Dacw 'nghariad i lawr yn y berllan Tw rym di ro rym di radl didl dal O na bawn i yno fy hunan Tw rym di ro rym di radl didl dal Dacw'r tŷ, a dacw'r 'sgubor; Dacw ddrws y beudy'n agor [Refrain:] Ffaldi radl didl dal, ffaldi radl didl dal Tw rym di ro rym di radl didl dal [Verse 2:] Dacw'r dderwen wych ganghennog Tw rym di ro rym di radl didl dal Golwg arni sydd dra serchog Tw rym di ro rym di radl didl dal Mi arhosaf yn ei chysgod Nes daw 'nghariad i 'ngyfarfod
[Refrain:] Ffaldi radl didl dal, ffaldi radl didl dal Tw rym di ro rym di radl didl dal [Verse 3:] Dacw'r delyn, dacw'r tannau Tw rym di ro rym di radl didl dal Beth wyf gwell, heb neb i'w chwarae Tw rym di ro rym di radl didl dal Dacw'r feinwen hoenus fanwl Beth wyf well heb gael ei meddwl [Refrain:] Ffaldi radl didl dal, ffaldi radl didl dal Tw rym di ro rym di radl didl dal Werde Teil der Genius-Deutschland-Community!